Pethau i’w Gweld a’u Gwneud
Gan fod byd natur wedi darparu maes chwarae mor dda i ni, byddai’n ffôl peidio â rhoi cynnig arno.
Mae Castell-nedd Port Talbot yn cynnig cymysgedd eang o bethau i’w gweld a’u gwneud, gydag opsiynau i siwtio pob math o gyflymder. P’un a ydych chi’n mwynhau’r awyr agored, bod yn actif, canfod diwylliant lleol neu dim ond mwynhau’r golygfeydd, mae digon o ffyrdd i siapio eich diwrnod allan perffaith. O deithiau cerdded hamddenol a mannau i fwynhau golygfeydd panoramig i draethau, coedwigoedd, atyniadau a gofodau creadigol, mae yna wastad rywbeth i’w ddarganfod.
Bydd y rhai sy’n chwilio am antur yn canfod llwybrau beicio mynydd penodedig ym Mharc Coedwig Afan, yn amrywio o gylchoedd hamddenol drwy’r coed i adrannau mwy technegol ar gyfer beicwyr hyderus. Ar yr arfordir, mae pen dwyreiniol Traeth Aberafan yn ddewis poblogaidd i syrffwyr pan fydd yr amodau’n iawn.
Ynghyd â gweithgareddau ac atyniadau, byddwch hefyd yn canfod digon o lefydd i fwyta, yn cynnwys caffis ar lan y môr, ystafelloedd te cysurus, tafarnau lleol a bwytai ymlaciol, gan ei gwneud hi’n hawdd cynllunio diwrnod allan llawn.
Defnyddiwch yr hidlyddion isod i bori pethau i’w gweld a’u gwneud. Mae hidlydd croesawu cŵn hefyd a map rhyngweithiol i’ch helpu i ganfod lleoliad pob gweithgaredd, pob lle i fwyta a phob atyniad.
The Refreshment Rooms
The Old Station, Cymmer, Port Talbot SA13 3HY
The Sand Rabbit Bar & Grill
130 Victoria Rd, Port Talbot SA12 6AY
The Welsh House
5 Croft Rd, Neath SA11 1RW
Treats yn Hen Stryd y Farchnad
2-3 Old Market St, Neath SA11 3NA
Wales Outdoors
Y Pafiliwn
Llandarcy Park, Llandarcy Academy Of, Llandarcy, Neath SA10 6JD
Yr Aelwyd. Theatr Port Talbot.
Civic Centre, Port Talbot, SA13 1PJ
Ysgol Syrffio Cymru
Aberavon Seafront, Port Talbot, SA12 6QW