Mae 2025 yn flwyddyn i ddathlu yma yng Nghalon Ddramatig Cymru: mae’n 100 mlynedd ers i’r actor Hollywood enwog, Richard Burton, gael ei eni ym mhentref Pontrhydyfen, Cwm Afan, Port Talbot.
Daeth yr actor, oedd yn enwog yn rhyngwladol, yn enw cyfarwydd yn ystod Oes Aur Hollywood, ond wnaeth e erioed anghofio’r cymunedau clos, y trefi a’r tirweddau eang â’i cododd a’i ysbrydoli.
Drwy gydol 2025 bydd cymoedd, dyffrynnoedd ac arfordir Castell-nedd Port Talbot yn gefnlen ar gyfer llu o berfformiadau, sgyrsiau, gweithgareddau, teithiau a rhagor, y cyfan yn dathlu etifeddiaeth ryfeddol Richard Burton: “llais ei genhedlaeth” a aeth â Chymru i’r byd.
Dysgwch ragor fan hyn: https://richardburton100.org/
Cerddwch ar hyd Llwybrau Richard Burton
Efallai bod Richard Burton wedi dod yn un o’r actorion oedd yn ennill fwyaf yn Hollywood, ond dechreuodd ei hyfforddiant fel actor yn Ysgol Ramadeg Port Talbot. Ac fe ddysgodd daflu ei lais drwy ymarfer ar gopa garw Mynydd Margam, yn edrych i lawr dros strydoedd troellog Port Talbot.
Nawr gallwch gerdded yn ôl traed yr actor llwyfan a sgrin ar hyd y ddau Lwybr Richard Burton newydd.
Mae’r Llwybr Man Geni’n arwain ymwelwyr drwy dirwedd hardd Pontrhydyfen, gyda’i draphont ddŵr eiconig yn eich arwain drwy stori bywyd cynnar Burton. Cerddwch drwy’r pentref lle cymerodd Burton ei gamau cyntaf, a dysgwch fwy am ei flynyddoedd cynnar drwy’r codau QR defnyddiol ar hyd y ffordd.
Mae’r Llwybr Plentyndod yn eich arwain i galon Port Talbot yn Nhaibach, gan fynd ag ymwelwyr heibio ei gartrefi ac ardaloedd ei blentyndod.
Yn ystod 2025 bydd teithiau am ddim ar gael ar hyd y Llwybrau gyda’n tywysydd arbennig – cadwch lygad a chofiwch ddilyn @richardburton_100 ar y cyfryngau cymdeithasol i gael y diweddaraf am ddyddiadau ac amseroedd teithiau.
Fe welwch y map rhyngweithiol er mwyn cynllunio eich ymweliad fan hyn: https://rbtrail.dramaticheart.wales/childhood-trail/
Ewch ar ymweliad i Arddangosfa Richard Burton
Gyda rhagolwg yn dod i Ganolfan Siopa Aberafan ym mis Mai 2025 a’r arddangosfa lawn yn digwydd rhwng Gorffennaf a Thachwedd, mae Arddangosfa ‘Bywyd Richard Burton’ yn mynd â chi ar daith drwy fywyd yr actor.
O’i blentyndod yn Richie Jenkins ym Mhontrhydyfen a Thaibach, drwy ei flynyddoedd ysgol lle y cyfarfu ei fentor y cymerodd ei enw, Mr Philip Burton, mae’r arddangosfa’n gorffen drwy edrych yn ôl dros ei yrfa lwyddiannus. Dathlwch yr eicon llwyfan a sgrin yng nghalon y gymuned â’i siapiodd.
Dysgwch ragor: https://richardburton100.org/discover-our-area/events/rb100-exhibition-in-aberafan-2/
Mwynhewch berfformiad wedi’i ysbrydoli gan Richard Burton
Os ydych chi’n chwilio am weithgaredd i’r teulu i ddysgu rhagor am fywyd ac etifeddiaeth Richard Burton, mae’r Theatr Na nOg yn cyflwyno eu cynhyrchiad ‘Halen yn y Gwaed’.
Bydd yn cael ei berfformio gan blant ysgol lleol yn ystod Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, a bydd yn rhannu straeon am yr actor enwog.
Dysgwch ragor: https://richardburton100.org/discover-our-area/events/theatr-na-no-g-halen-yn-y-gwaed-urdd-performance/
Ymgollwch yn hanes ei fywyd
‘Behind the Scenes: The Dramatic Lives of Philip Burton’ yw’r llyfr ffeithiol diweddaraf gan Angela V. John, hanesydd a bywgraffydd adnabyddus. Yn dilyn lansio ei llyfr newydd, bydd John yn cynnal sesiwn Holi ac Ateb arbennig yn y Plaza Newydd, Port Talbot ar 26ain Ebrill. Ymunwch â rhestr bostio RB100 i fod ymhlith y cyntaf i glywed am ryddhau’r tocynnau!
Os ydych chi’n dod i ymweld â’r ardal am wyliau wedi’i ysbrydoli gan Richard Burton, edrychwch ar yr opsiynau llety fan hyn: https://dramaticheart.wales/discover-our-area/accommodation/
Er mwyn cael y newyddion diweddaraf am ddigwyddiadau RB100, ymunwch â’r rhestr bostio ar richardburton100.org.