Mae llawer o ymwelwyr i Galon Ddramatig Cymru yn ymwybodol o’i hanes diwydiannol cryf ond mae gweld traeth euraidd Aberafan, gyda thair milltir o dywod braf, yn peri tipyn o syndod.
Gyda llethr graddol i lawr i ddyfroedd Bae Abertawe, Traeth Aberafan yw’r cyrchfan perffaith os mai’ch syniad o ddiwrnod perffaith yn yr haf yw chwarae gemau traeth, adeiladu cestyll tywod, mwynhau nofio yn y môr a mwynhau ambell i hufen iâ.
Mae’r cyrchfan glan môr arobryn yn hynod o boblogaidd gyda theuluoedd yn sgil ei lendid a’r cyfleusterau sydd gerllaw, yn ogystal â’r llefydd bwyta niferus. I’r rhai sy’n methu mynd i lan y môr heb gael profiad o bysgod a sglodion traddodiadol, mae Bar Pysgod Franco dafliad carreg i ffwrdd o’r traeth. Mae’r siop sglodion boblogaidd wedi bod yn ganolog i draeth Aberafan ers 1970 ac mae’n gwybod yn union sut i fodloni eich archwaeth! Mae llefydd i eistedd y tu mewn a’r tu allan ac mae darpariaeth heb glwten, llysieuol a fegan ar gael felly bydd pob aelod o’r teulu’n gadael Franco’s wedi’u bodloni.
Neu os yw’n well gennych chi fwyd bistro, beth am fynd i’r Front – y bwyty gyrru trwodd annibynnol cyntaf yng Nghymru. Mae’n gweini bwyd sy’n tarddu’n lleol gan ddefnyddio cyflenwyr Cymreig, mae’n croesawu cŵn ac yn cynnig golygfeydd gwych ar draws Bae Abertawe.
Os mai bwydydd melys yw dewis eich teulu, mae Remo’s ychydig yn bellach i lawr y traeth, siop goffi a bwyty hyfryd ar lan y môr gyda pharlwr hufen iâ bendigedig. Mae’r hufen iâ enwog i gyd wedi’i wneud gartref, ac mae dewis o 42 o flasau hyfryd ar gael yno.
Unwaith y byddwch wedi cael llond eich bol o fwyd ac wedi blino ar gestyll tywod, mae llu o weithgareddau eraill ar gael ar Draeth Aberafan. Mae’r rhain yn cynnwys Golff Antur Pirate Cove, cwrs gwbl hygyrch gyda 12 twll a gorsafoedd eli haul i wneud yn siŵr eich bod yn aros yn ddiogel yn y gwres.
Ar ôl i chi orffen eich gêm, ewch i oeri yn Aqua Splash Aberavon, parc sblasio gyda dros 30 o arweddion dŵr yn cynnwys ffynhonnau a jetiau. Mae’r parc poblogaidd hwn ar agor bob dydd rhwng 10am a 7pm gan roi digon o amser i’r plantos chwarae a mwynhau hwyl yn yr haul.
I’r rhai sy’n chwilio am wefr ac adrenalin, mae rhan ddwyreiniol y traeth wedi’i gadw ar gyfer syrffio a syrffio barcud. Bachwch eich byrddau a chamu i mewn i’r môr am sbel, cyn ymlacio ar y tywod a chael ychydig o gwsg yng ngwres yr haul. Hyd yn oed os nad ydych chi’n gwybod sut i syrffio, gallwch fwynhau rhoi cynnig arni diolch i Surf School Wales, sy’n cynnig gwersi syrffio ac yn llogi offer.
Wrth gwrs, fedrwn ni ddim sôn am hwyl ar lan y môr heb gynnwys ein cyfeillion blewog! Mae croeso i gŵn drwy gydol y flwyddyn ar draeth y doc ar ben draw’r promenâd. Yma gallan nhw redeg o gwmpas heb dennyn, mynd ar ôl eu peli tenis a sblasio yn y dŵr bas nes blino’n lân! Mae cŵn wedi eu gwahardd oddi ar weddill y traeth rhwng mis Mai a mis Medi, a rhaid iddyn nhw fod ar dennyn drwy’r amser ar y promenâd.
Beth bynnag yw eich cynlluniau dros yr haf, os ydych chi’n chwilio am ddiwrnod perffaith ar y traeth y bydd y teulu cyfan yn ei fwynhau, does dim angen edrych ymhellach na Thraeth Aberafan!