Dewch i Fwynhau Gwyliau Haf yr Ysgol

Gwnewch y mwyaf o’r gwyliau haf gydag ymweliad i Galon Ddramatig Cymru. Dyma rai syniadau ar gyfer gweithgareddau i’r teulu i ysbrydoli eich cynlluniau gwyliau yr haf yma.

Mwynhau Awyr Agored y Cymoedd

Ymgollwch yng nghalon cefn gwlad De Cymru a mwynhewch y cyffro a’r heddwch yng Nghalon Ddramatig Cymru.

Dechreuwch eich taith drwy wneud eich hun yn gysurus ym Mythynnod Gwyliau Cwm Tawe sydd â digon o le i’r teulu ac yn cynnig golygfeydd hardd.

Am eich blas cyntaf o antur, ewch am brofiad o ogofa gydag Adventure Britain. Os ydych chi angen mwy o gynnwrf adrenalin, gallwch brofi gwefr dringo, nofio a llithro drwy’r cyrsiau rhwystrau naturiol yma gyda Gweithgareddau Mynydd ac Afon.

Ar ôl yr holl hwyl, ewch i fodloni eich chwant bwyd gyda phryd cartref wedi’i baratoi’n ffres yng Ngwesty’r New Swan.

Penwythnos i’r Teulu yn Beicio Mynydd

Datgysylltwch o fywyd pob dydd a chrwydrwch Barc Coedwig Afan yn y ffordd naturiol, gyda thaith i’r teulu ar feiciau mynydd.

Dechreuwch y penwythnos drwy godi pabell yng Ngwersyllfa Willow Springs, gwersyllfa fechan eco-gyfeillgar yng nghalon Parc Coedwig Afan.

Lai na milltir o’r wersyllfa, fe ddowch ar draws Afan A Blast fydd yn gwneud yn siŵr fod eich beiciau’n barod i ymdopi â llwybrau’r Goedwig. Mae beiciau mynydd ac e-feiciau ar gael i’w llogi am y penwythnos hefyd.

Astudiwch y llwybrau i gyd ar wefan Parc Coedwig Afan cyn i chi fynd i feicio. Y Llwybr Rwci yw’r un mwyaf hygyrch ar gyfer beicwyr ifanc o bob gallu.

Ar ôl yr holl feicio mynydd yna, byddwch yn falch i glywed fod Porthdy Afan gerllaw gyda bwyd a lluniaeth blasus.

Gwyliau Byr llawn Gweithgaredd

Llenwch eich gwyliau teuluol gydag antur a mwynhewch y gweithgareddau llawn antur sydd gan Calon Ddramatig Cymru i’w cynnig.

Fel y bydd unrhyw anturiaethwr yn ei wybod, mae sefydlu gwersyll cychwyn yn lle da i ddechrau. Mae Fferm Tŷ’n Cellar yn agos at yr holl weithgareddau, a bydd ei lety arobryn yn gwefreiddio’r teulu cyfan.

Cychwynnwch yr hwyl gyda sblash. Ymunwch ag Ysgol Syrffio Cymru a reidiwch y tonnau ar Draeth Aberafan.

Nesaf, bydd angen i chi wisgo’ch gwregys i fynd ar antur saffari gwibgertio Antur Parc Margam ar diroedd Parc Gwledig Margam. Gall y plantos fod yn gyfrifol am lywio’r cert gyda’r rhieni’n darparu’r coesau wrth i chi rasio yn un o’r gwibgerti teulu.

Yn olaf, fyddai antur yng Nghalon Ddramatig Cymru ddim yn gyflawn heb fynd ar Her Brig y Coed Go Ape. Swingiwch a llamwch drwy’r coed a neidiwch oddi ar Swing Tarzan mwyaf Go Ape.