Dewch i Fwynhau Luminate ym Mharc Gwledig Margam dros Gyfnod yr Ŵyl

Wrth i’r dyddiau fyrhau ac i oerni’r gaeaf lenwi’r aer, mae rhywbeth hudolus yn aros i chi ei ddarganfod ym Mharc Gwledig Margam. Bob blwyddyn mae Luminate yn trawsnewid y parc a’r castell hanesyddol i fod yn wlad hudol llawn goleuni ac mae eleni’n addo bod yn fwy a gwell nag erioed.

O’r eiliad y byddwch yn camu ar y llwybr, cewch eich croesawu i daith wedi’i goleuo, yn filltir o hyd, sy’n gwau drwy lwybrau’r goedwig, y gerddi hanesyddol ac o gwmpas waliau’r castell. Gyda goleuadau sy’n cyd-fynd â’r gerddoriaeth, gosodiadau rhyngweithiol ac arddangosfeydd ar thema (dychmygwch dwneli golau’n tywynnu, coedwigoedd hudolus a wal “Ddymuniadau” lle gall teuluoedd osod eu gobeithion a’u breuddwydion), mae Luminate yn cynnig profiad Nadoligaidd sy’n rhoi pleser i ymwelwyr o bob oed.

Dylai’r llwybr gymryd rhwng 60 a 90 munud, gan ddibynnu pa mor gyflym y byddwch yn cerdded. Ar y daith fe ddewch ar draws danau clyd lle gallwch dostio malws melys a chaffi yn y clos a gwerthwyr bwyd stryd yn cynnig diodydd twym, danteithion Nadoligaidd a bwydydd i’ch cynhesu. Perffaith ar gyfer coesau bach, traed oer a boliau llwglyd!

Un o’r pethau mwyaf deniadol am Luminate yw ei fod yn gynhwysol ac yn addas i’r teulu cyfan. Mae nosweithiau penodol sy’n synhwyraidd-gyfeillgar gyda lefelau sain is a llai o westeion, wedi eu hanelu at wneud y digwyddiad yn hygyrch i’r rhai sydd ag anghenion synhwyraidd ychwanegol. I deuluoedd â chŵn, mae nosweithiau penodol sy’n croesawu cŵn hefyd lle mae gwahoddiad i gŵn sy’n ymddwyn yn dda ac ar dennyn byr i ymuno ar y llwybr, gan sicrhau ymweliad Nadoligaidd i bawb.

Os ydych chi’n teithio atom ni ar hyd goridor yr M4 – boed hynny o Gaerdydd, o Fryste neu ymhellach – mae Parc Gwledig Margam yn hawdd ei gyrraedd ac mae’n werth teithio’r ychydig filltiroedd ychwanegol. Mae llewyrch cynnes miloedd o oleuadau, y trac sain swynol a’r awyrgylch o ryfeddod torfol yn gwneud Luminate y math o brofiad sy’n dod â phobl at ei gilydd.

Felly lapiwch yn gynnes, casglwch eich anwyliaid at ei gilydd, archebwch eich slot amser a pharatowch i weld Castell-nedd Port Talbot mewn goleuni newydd.

Archebwch eich tocynnau yma: https://luminate.live/margam-country-park