Darganfod Ein Hardal

Edrychwch yn ofalus ac fe welwch ysbryd cenedl. Mae popeth mae pobl yn ei fwynhau a’i ddisgwyl wrth ddod i Gymru yn fyw yma yn sir Castell-nedd Port Talbot.

Mae’n lle eithriadol amrywiol, ac yn fan cyfarfod i ddwyrain trefol a gorllewin gwledig Cymru. Mae’r cyfuniad o gymoedd ac arfordir, sgydau a thonnau, harddwch a gwytnwch, yn creu profiad annisgwyl a bythgofiadwy.

 

Y ffordd orau o werthfawrogi tirweddau ein harfordiroedd a’n cymoedd yw gadael y car a gweld drosoch eich hunan beth sy’n gwneud hon yn ardal unigryw. Mae beicio mynydd, beicio, cerdded a syrffio i gyd i’w hargymell yn fawr fel ffyrdd gwych o brofi cyferbyniadau naturiol a diwydiannol cynhenid ein hardal.

 

Mae Castell-nedd Port Talbot yng nghanol De Cymru, sy’n golygu bod ein hardal yn ganolbwynt delfrydol i archwilio’r rhanbarth cyfan. Mae prifddinas Caerdydd yn gyfleus o agos, gyda chysylltiadau trafnidiaeth gwych â digwyddiadau chwaraeon pwysig, cyngherddau a siopa yng nghanol y ddinas.

 

Mae Gŵyr, Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, arfordir Sir Benfro, ac encilfannau gwledig ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Sir Gaerfyrddin i gyd o fewn 30-40 munud yn y car o dirweddau dramatig ein hardal ninnau.

Darllen mwy
Hidlo

LLEOEDD I AROS

Angen rhywle i roi eich pen i lawr ar ôl diwrnod prysur? Gadewch i ni eich helpu i gael hyd i lety addas.

Mannau i Ymweld â nhw

Ydych chi’n chwilio am ddiwrnod o hwyl i’r teulu? Gwiriwch ein hatyniadau yma.

Gweithgareddau ac Atyniadau

Eisiau cynyddu lefelau endorffinau yn ein maes chwarae naturiol? Chwiliwch am weithgareddau yma.

Beicio Mynydd

Yn droellog, yn llawn gwreiddiau a chreigiau, ac mewn mannau’n anhygoel o agored, rydyn ni’n ddelfrydol i’r selogion.

Beicio

Mae beicwyr ffordd wrth eu bodd gyda’n milltiroedd o lonydd troellog, ein llethrau serth, a’n cyfleoedd cyffrous i ddisgyn.

Ein Teithiau Cerdded

Gall cerddwyr fwynhau ochr wyllt y sir – rhaeadrau a choetir, cefn gwlad ac arfordir.

Digwyddiadau

A dyma’r lle delfrydol i gael manylion digwyddiadau ar hyd y flwyddyn...

Sut mae dod o hyd i ni

Tanysgrifio i’n Rhestr Bostio

Chwilio