LLEOLIAD:

Port Talbot

Addas i Grwpiau (20+ o Westeion)

Croeso i Feicwyr Mynydd a Beicwyr

Croeso i Gerddwyr

Adeiladau Gwyliau Fferm Tŷ’n Cellar

Llety 4* o ansawdd uchel sydd ar safle Tyn Cellar Farm, sy’n cynnwys llety gwely a brecwast The Barn, bythynnod gwyliau hunanarlwyo, a neuadd gymunedol. Mae’n fferm restredig Gradd 2 sy’n dyddio’n ôl i’r drydedd ganrif ar ddeg, pan oedd yn rhan o Abaty Margam. Fe’i lleolir hanner ffordd rhwng cyffordd 37 a chyffordd 38 yr M4, 25 munud o Gaerdydd a 15 munud o Abertawe. Yn ogystal, mae 8 cwrs golff, gan gynnwys y Royal Porthcawl, o fewn taith 30 munud mewn car.

Yn agos at Lwybr Arfordir Cymru a’r Canolfannau Beicio Mynydd ym Mharc Coedwig Afan. Mae lle hefyd i gadw beiciau a chlybiau golff dan glo yn ogystal ag ystafell sychu ar gyfer diwrnodau gwlyb. Taith 40 munud o Ben y Fan a Bannau Brycheiniog, ynghyd â Phenrhyn. Yn lleol, ceir traethau hyfryd yn Aberafan a Phorthcawl, ac mae’r Ysgol Syrffio 10 munud yn unig i ffwrdd. Mae Parc Gwledig Margam ar garreg ein drws.