LLEOLIAD:

Coedwig Afan

Addas i Gŵn

Addas i Grwpiau (20+ o Westeion)

Croeso i Feicwyr Mynydd a Beicwyr

Croeso i Gerddwyr

Afan Mountain Lodge

Mae Afan Mountain Lodge yng nghalon Cwm Afan yn cynnig dihangfa berffaith i bobl sy’n dwlu ar yr awyr agored a’r rheini sy’n gobeithio ymlacio mewn amgylchedd prydferth. Mae’r caban ychydig funudau o’r M4 ac yn cyfuno mynediad hawdd a golygfeydd panoramig syfrdanol ar draws y cwm a’r bryniau cyfagos.

Mae gan bob un o’n hystafelloedd i westeion olygfeydd gwych o gefn gwlad ac maent yn darparu hafan heddychlon ar ôl diwrnod o antur.

Mae Afan Mountain Lodge yn lleoliad delfrydol ar gyfer beicwyr mynydd, gyda lle diogel i storio beiciau a mynediad uniongyrchol at lwybrau beicio mynydd enwog Coedwig Afan, sy’n galluogi ymwelwyr i ddechrau eu taith o’r caban.

Mae ein bwyty a’n bar croesawgar yn gweini brecwast traddodiadol llawn yn ogystal â phrydau wedi’u paratoi’n ffres i ginio a swper. Ar ddiwrnodau cynhesach, gallwch ymlacio ar ein teras awyr agored a mwynhau’r golygfeydd godidog.

Rydym yn falch o fod yn gaban sy’n addas i gŵn, felly gall eich anifail anwes ymuno â chi ar eich ymweliad.