LLEOLIAD:
Neath
Addas i Gŵn
Croeso i Feicwyr Mynydd a Beicwyr
Croeso i Gerddwyr
Bwthyn y Pwll
Mae Bwthyn y Pwll wedi’i orffen yn hardd gyda theimlad traddodiadol ond eto’n gyfoes, yn swatio yng nghanol tiroedd y Gnoll, yn edrych dros Bwll Pysgod y Gnoll.
Porthdy gofalwr y tir oedd y bwthyn yn wreiddiol, yn dyddio’n ôl i gyfnod Fictoria. Bellach mae ar gael i’w logi ac i aros ynddo am yr wythnos gyda lle i hyd at 6 o bobl i gysgu. Mae 2 wely dwbl, 1 ystafell â dau wely sengl ac ystafell ymolchi yn y llofft gyda chegin, ystafell fyw ac ystafell fwyta/dderbyn a thŷ bach gydag ystafell gawod ar y llawr gwaelod.
Ymysg y prif nodweddion mae llosgydd logiau gyda phren wedi’i gasglu’n gynaliadwy o Barc Gwledig y Gnoll, gerddi preifat gyda phatio teras yn y cefn ac i’r ochr, a man eistedd yn y blaen i chi gael golygfeydd hardd o’r pwll a’r bywyd gwyllt.
Mae’r eiddo, sy’n croesawu cŵn, yn lleoliad perffaith i chi gael profiad ymlaciol braf er mwyn crwydro’r Parc a choridor Treftadaeth Cwm Nedd.
Parcio preifat yn y cefn, Wi-Fi a theledu ledled yr eiddo ynghyd â storfa feiciau y gellir ei chloi.





