LLEOLIAD:
Cwm Dulais
Addas i Grwpiau (20+ o Westeion)
Croeso i Gerddwyr
Bythynnod Creunant
Mae’r tri bwthyn 5 seren wedi’u lleoli ar fferm yn y Creunant, mewn cefn gwlad hardd. Mae pwll nofio dan do yno, twba twym, campfa a sawna; mae’r rhain yn cael eu rhannu gan y tri bwthyn. Mae gan y bythynnod fynedfa uniongyrchol i’r mynydd sydd tu ôl iddyn nhw, sy’n ddelfrydol i gerddwyr a beicwyr.
Mae gwresogi ar gyfer pob bwthyn yn dod drwy bympiau gwres o’r ddaear ac mae stôf llosgi pren, popty aga estynedig, lloriau a thrawstiau derw, barbeciw a dodrefn gardd a band eang cyflym ym mhob un hefyd. Croeso i deuluoedd.

