LLEOLIAD:
Vale of Neath
Croeso i Feicwyr Mynydd a Beicwyr
Croeso i Gerddwyr
Dunraven Arms
Cynigir 5 ystafell ddwbl â chyfleusterau en-suite preifat yn y Dunraven Arms sydd wedi’i leoli mewn pentref bach yng ngwlad y sgydau lle gallwch ddilyn taith gerdded hyfryd y 4 sgwd. Mae llwybrau beicio gerllaw hefyd, gan gynnwys dolen Skyline neu Lwybr Goriwaered Rheola, ac mae parc beiciau Cymru o fewn cyrraedd agos yn y car. (Mae gennym le i storio beiciau.) Yn ogystal, mae Zipworld, Bannau Brycheiniog a phenrhyn Gŵyr i gyd o fewn cyrraedd agos yn y car. Os byddai’n well gennych ymlacio, mae gennym far/lolfa yn ein tafarn gyfeillgar.
Cynigir ystafell ddwbl â chyfleusterau en-suite newydd, a darperir tywelion a chyfleusterau te a choffi. Dim mwy na dau westai ym mhob ystafell. Y pris ar y wefan yw pris yr ystafell fesul noson.




