LLEOLIAD:
Cwm Afan
Croeso i Feicwyr Mynydd a Beicwyr
Croeso i Gerddwyr
Fedwen Pods
Maes glampio bach yng Nghwm Afan ar ymyl pentref Cwmafan. Mae tri phod glampio yno gyda golygfeydd godidog dros y cwm. Mae pob pod yn cynnwys gwely dwbl gosod a gwelyau bync maint oedolyn, fel y gall uchafswm o ddau oedolyn a dau blentyn neu dri oedolyn gysgu ynddo. Mae gan bob un ohonynt giwbicl toiled sy’n cynnwys toiled gwersylla er hwylustod. Mae socedi trydan a chyfleusterau gwefru y tu mewn iddynt. Mae’r podiau clyd wedi’u gwresogi ac wedi’u hinsiwleiddio’n llawn, ac felly maent yn addas i’w defnyddio drwy’r flwyddyn.
Mae gan adeilad cymunedol ar wahân dri thoiled, tair cawod (ac un ohonynt yn hygyrch ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn), cegin llawn cyfarpar ac ystafell fwyta/lolfa i chi ymlacio ynddi. Mae’r patio’n arwain at ardd at ddefnydd gwestai. Gellir darparu padell tân awyr agored a barbeciw.
Mae cyfleusterau storio beiciau a golchi ar gael ar y safle.



