LLEOLIAD:

Port Talbot

Addas i Grwpiau (20+ o Westeion)

Croeso i Feicwyr Mynydd a Beicwyr

Croeso i Gerddwyr

The Grand Hotel

Gyferbyn â Gorsaf Drenau Parcffordd Port Talbot, mae The Grand Hotel yn darparu llety o fewn pum munud ar gerdded i ganol y dref. Mae’r gwesty, y gellir ei gyrraedd o Abertawe ymhen llai nag ugain munud mewn car, yn cynnig bar ar y safle, Wi-Fi am ddim a pharcio am ddim. Mae’r holl ystafelloedd i westeion yn cynnig cyfleusterau en suite, gan gynnwys bath a chawod uwchben. Mae teledu a chyfleusterau gwneud te/coffi ym mhob ystafell.

Mae The Grand Hotel oddeutu dwy filltir i ffwrdd o draeth tywodlyd a phier Aberafan a chwe milltir i ffwrdd o ganol Cwm Afan, ac mae llwybrau cerdded a beicio ar stepen ei ddrws.

Gellir gyrru i brifddinas Cymru, Caerdydd, ymhen llai na 40 munud.