LLEOLIAD:
Cwm Afan
Addas i Gŵn
Croeso i Feicwyr Mynydd a Beicwyr
Croeso i Gerddwyr
Gwersyllfa Willow Springs
Gwersyllfa fach sy’n gofalu am yr amgylchedd yng nghanol Parc Coedwig Afan. Cynigir 10 o leiniau preifat, heb drydan, sy’n addas ar gyfer faniau gwersylla, pebyll, pebyll ôl-gert, cartrefi modur hyd at 21tr a faniau dydd. Mae pob llain yn cynnwys lle parcio ac arwyneb caled iddo’i hun. Ceir hefyd 3 Chwt Bugail gwersylla moethus (lle i 4 gysgu).
Mae’r cyfleusterau’n cynnwys 3 ystafell ymolchi, ystafell sychu cerdded i mewn, cyfleusterau ailgylchu, dŵr nant am ddim, ardal golchi llestri gysgodol, lle i olchi cŵn a beiciau, gwaredu cynnwys tai bach, ac ardal eistedd gysgodol ar gyfer prydau bwyd. Ceir hefyd dderbynfa gyda wi-fi am ddim. Mae croeso i gŵn, ac fe gewch gynnau tân a chael barbeciw.
Mae Cwm Afan yn boblogaidd dros ben ymhlith selogion gweithgareddau awyr agored, beicwyr mynydd, beicwyr ac anturiaethwyr brwd. Gyda digonedd o fywyd gwyllt a golygfeydd panoramig, mae Willow Springs yn lleoliad delfrydol ar gyfer encil dawel.




