LLEOLIAD:

Port Talbot

Addas i Grwpiau (20+ o Westeion)

Croeso i Feicwyr Mynydd a Beicwyr

Croeso i Gerddwyr

Gwesty Traeth Aberafan Best Western

Wedi’i leoli ar lan y môr ger Traeth Aberafan, ddwy funud ar droed o’r traeth tywodlyd 3 milltir o hyd, mae’r gwesty’n cynnwys 68 o ystafelloedd gwely, y mae rhai ohonynt yn cynnig golygfeydd gwych dros y môr, a phob un ohonynt â chyfleusterau en-suite ac wedi’u haddurno’n chwaethus.

Maen nhw’n darparu ar gyfer pob math o grwpiau bach a mawr ac yn gallu hwyluso unrhyw drefniadau angenrheidiol. Darperir lle diogel i gadw beiciau a lle i sychu siacedi gwlyb ar ôl diwrnod allan.

Mae Bar a Bwyty Talbot ar agor trwy’r dydd gan weini detholiad o gwrw a gwinoedd da a bwyd ffres wedi’i goginio gartref.