LLEOLIAD:
Coedwig Afan
Addas i Gŵn
Croeso i Feicwyr Mynydd a Beicwyr
Croeso i Gerddwyr
Llareggub
Mae gan Llareggub 3 llawr gyda thoiled a/neu ystafell ymolchi ar bob llawr. Mae yna ddwy ystafell wely dwbl a dwy ystafell wely pâr sy’n cynnig lle i 8 oedolyn gysgu.
Mae gan y gegin fawr sy’n llawn cyfarpar ddigon o seddi i bawb. Mae hefyd yn cynnwys pentan anwythol, ffwrn, microdon a ffrïwr aer.
Mae gan yr ystafell fyw seddi cyfforddus a theledu clyfar mawr, a gemau bwrdd hefyd.
Mae’r ystafelloedd ymolchi’n cynnwys 3 thoiled, 2 gawod ac 1 bath.
Mae gan y ddwy ardal decin ddigon o fyrddau a chadeiriau i fwynhau bwyta yn yr awyr agored tra’n gwylio’r haul yn machlud.
Mae tap dŵr a golchwr pwysedd ar gael y tu allan er mwyn ymolchi ar ôl mynd a’r ci am dro neu fynd allan ar gefn beic.
Ceir golygfeydd anhygoel ar draws Cwm Afan, gyda mynediad uniongyrchol at Barc Coedwig Afan yn Rhyslyn. Dyma le gwych ar gyfer cerdded, mynd â’r ci am dro, beicio, a beicio mynydd ym Mharc Beicio Afan. Gellir storio beiciau y tu ôl i’r tŷ ar y decin, neu yn y gegin.


