LLEOLIAD:

Cwm Afan

Addas i Gŵn

Addas i Grwpiau (20+ o Westeion)

Croeso i Feicwyr Mynydd a Beicwyr

Croeso i Gerddwyr

Llety Tŷ Bryn Teg

Mae Llety Tŷ Bryn Teg yn cynnig tri bwthyn sydd wedi’u lleoli gyda’i gilydd ym mhentref Cymer, ynghanol harddwch Cwm Afan, ac mae’n cynnig detholiad eang o atyniadau o gwmpas Cwm Nedd, Abertawe a’r Mwmbwls. Beth bynnag yw eich diddordebau – beicio mynydd, beicio ar y ffyrdd – neu os ydych chi’n deulu sy’n chwilio am wyliau rhagorol, mae llu o bethau i chi eu gweld a’u gwneud – gallwch fwynhau rhaeadrau, cestyll, fforestydd, orielau, traethau ac amgueddfeydd.

Rose Cottage – 2 ystafell wely; lle i hyd at 6 gysgu

Glyndwr Cottage – 2 ystafell wely; lle i hyd at 6 gysgu

Pedaller’s Rest – 3 ystafell wely; lle i hyd at 10 gysgu

Mae gan bob bwthyn le diogel i storio a glanhau beiciau, dillad gwely a thywelion, cegin gyda digon o offer, ac mae’r dafarn/bwyty o fewn 5 munud o gerdded. Mae’r llwybrau beicio o fewn munudau hefyd.