LLEOLIAD:
Dyffryn Aman Uchaf
Addas i Gŵn
Croeso i Feicwyr Mynydd a Beicwyr
Croeso i Gerddwyr
Bwthyn Lothlorien
Cartref hunan arlwyo tair ystafell wely gyda WiFi yw Bwthyn Lothlorien, wedi leoli yng nghalon Cymru. Mae ein cartref yn cynnig ystafelloedd gwely dwbl, dau wely a sengl, gyda chot ychwanegol i’r babi a gwely gwestai i oedolyn, gyda lle i gysgu i hyd at 6 o bobl. Mae’n sefyll ar groesffordd tair ardal o harddwch naturiol eithriadol: Bannau Brycheiniog, Penrhyn Gŵyr a Chwm Nedd.
Estynnir croeso cynnes i gerddwyr a beicwyr gyda storfa allanol ar gyfer beiciau ac esgidiau cerdded. Yn y cefn, mae gardd fawr deuluol ynghyd â lle parcio am ddim oddi ar y ffordd, ac mae croeso i anifeiliaid anwes teuluol aros am ddim. Bydd croeso cynnes a phecyn croeso yn disgwyl pob gwestai ac mae’r gofalwr ar gael bob amser yn y pentref os bydd angen. Mae’r ystafell ddwbl ar y llawr gwaelod, gyda’r ystafelloedd sengl a dau wely ar y llawr cyntaf ar bwys yr ystafell ymolchi fawr sy’n edrych allan dros fynydd Cawdor. Mae’r barbeciw wedi’i fewnosod a’r patio ym mhen ucha’r ardd yn lle da i ddal yr haul neu i gysgodi, beth bynnag fo’r tywydd!

