LLEOLIAD:
Cwm Tawe
Croeso i Feicwyr Mynydd a Beicwyr
Croeso i Gerddwyr
Plas Cilybebyll Manor House
Lleolir Plas Cilybebyll mewn man canolog yn Ne Cymru, o fewn cyrraedd hwylus i’r M4, 10 milltir yn unig o Abertawe ac yn agos i Benrhyn Gŵyr a Bannau Brycheiniog.
Mae naws chateau Ffrengig mawreddog i’r adeilad, sydd wedi’i leoli mewn llecyn preifat godidog â golygfeydd hudol dros barcdir. Wedi’i amgylchynu gan fwy na 100 erw o dir gwledig, mae pwll nofio dan do trawiadol 10m o hyd ar y safle ynghyd â chwrt tenis, gardd Eidalaidd â phwll a ffug-dŵr â tho cromennog, a gardd furiog â phwll lilïau.
- Lle i 18 o bobl gysgu
- 9 ystafell wely
- 4 ystafell wely en-suite
- 2 ystafell ymolchi
- Pwll nofio dan do wedi’i wresogi
- Cegin sy’n cynnwys Aga
- Ystafell fwyta â lle i 22 o bobl
- Seler win
- WiFi a theledu HD
- Llyfrgell
- Cwrt tennis
- 2 erw o erddi
- Coetir preifat
- 120 erw o dir ffermio
- Safon 5 seren Croeso Cymru
O dan fantell Swansea Valley Holiday Cottages, mae ein plasty a’n bythynnod gwyliau unigryw wrth fodd ein gwesteion ac yn cynnig lleoliad tawel braf heb fod ymhell o gyfleusterau ac atyniadau o safon byd-eang. Mae croeso i’n gwesteion grwydro’r 100 erw a rhagor o dir gwledig preifat sy’n cynnwys coetir lle mae clychau’r gog yn tyfu, nentydd mynydd a phorfeydd ar ochr y bryn, gyda golygfeydd panoramig dros gefn gwlad Cymru.





