LLEOLIAD:
Neath
Addas i Gŵn
Addas i Grwpiau (20+ o Westeion)
Croeso i Feicwyr Mynydd a Beicwyr
Croeso i Gerddwyr
Ty-Canol Farm Caravan and Camping (Adult only)
Fferm deuluol gyfeillgar yw Tŷ Canol gyda mynediad hwylus o’r M4. Mae ei lleoliad yn gyfleus ar gyfer Aberhonddu, Caerdydd a phenrhyn Gŵyr.
Rydym yn safle CL a sefydlwyd ers 12 mlynedd. Er bod y safle’n agos at yr A465, mae’n cynnig holl fanteision cefn gwlad. Mae yma ystod helaeth o fywyd gwyllt ac amrywiaeth o adar. Mae llwybr glan yr afon a rhaeadr o fewn 5 munud ar droed o’r safle sydd hefyd yn gartref i adfeilion godidog mynachlog Nedd, ynghyd â llwybrau ar hyd y gamlas sy’n ymestyn am filltiroedd.
Rydym 15 munud i ffwrdd o lwybrau beicio mynydd rhyfeddol Coedwig Afan ac yn agos (chwe milltir) at draeth hyfryd Aberafan sydd â phromenâd milltir o hyd, bwytai a thraeth panoramig hyfryd. Ymhlith yr atyniadau eraill, mae rhaeadrau a gwaith haearn Aberdulais a pharc gwledig y Gnoll. Mae gan Gastell-nedd lawer i’w gynnig – mae’r rhestr yn ddi-ben-draw.