Camlas Nedd Resolfen – Glyn-nedd

ANHAWSTER:

Hawdd

PELLTER:

8.7 km / 5.4 m

CANIATAU:

2 awr a 30 munud

CYNEFIN:

Glannau'r gamlas

Llwybr gwastad dymunol iawn, yn addas i bawb. Dechrau yn y maes parcio ger y gylchfan ar yr A465 yn Resolfen, gan gerdded lan Cwm Nedd. Mae’r llwybr ar hyd Camlas Nedd yn mynd heibio i nifer o lociau ar ei ffordd trwy’r cwm. Adeiladwyd y gamlas ddiwedd y 18fed ganrif er mwyn cludo deunyddiau o ddiwydiannau a mwyngloddiau cynnar y cwm. Roedd yn cysylltu â Chamlas Tennant yn Aberdulais a’r camlesi hyn oedd y prif dull o gludiant nes i’r rheilffordd gyrraedd ym 1851. Mae gwaith adfer sensitif dros y blynyddoedd wedi creu cyfuniad o ddiddordeb hanesyddol â’r bywyd gwyllt toreithiog sy’n gysylltiedig yn aml â chamlesi. Roedd yr ardal wedi ysbrydoli Alexander Cordell, ac roedd yn gefndir i’w lyfr ‘Song of the Earth’, y trydydd yn ei drioleg am Gymru’r 19eg ganrif. Ar ôl cyrraedd yr odynau calch 4 cilometr i’r gogledd, rhowch amser i archwilio’r ardal wych o’ch cwmpas cyn dychwelyd i’r man cychwyn.

Gwylio Bywyd Gwyllt: Cadwch lygad am weision y neidr lliwgar o’r enw’r ymerawdwyr yn gwibio dros y dŵr, y llafnlys mawr gyda’i flodau melyn, a glas y dorlan ar ganghennau.

Pontardawe – Ystalyfera

Cwm Tawe

Yn ei phen deheuol, mae’r daith gerdded yn dechrau ar faes hamdden Pontardawe. Dilynwch y llwybr glan afon i’r dde…

Llwybr Arfordir Cymru – Camlas Tennant

Ewch i’r gamlas yn Jersey Marine gan ddilyn cyfeirbyst Llwybr yr Arfordir i gyfeiriad gorllewinol tuag at Abertawe. Heblaw am…

Ffen Pant-y-sais

Bro Nedd

Gellir cael mynediad i’r llwybr hwn yn uniongyrchol o’r palmant ar hyd y brif ffordd. Taith gerdded fer a hawdd…