Cwm Du a Phlanhigfa Glanrhyd

ANHAWSTER:

Rhywfaint o Ymdrech

PELLTER:

2.1 km / 1.3 m

CANIATAU:

50 munud

CYNEFIN:

Coetir/glan afon

Mae modd cyrraedd y trysor cuddiedig hwn o gwm o’r Groes yng nghanol tref Pontardawe (mynediad gyferbyn y Dillwyn Arms) Dilynwch afon Cwm Clydach nes dringo grisiau ar y chwith sy’n arwain lan i hen ystâd Glanrhyd. Ewch ar hyd y llwybr cylchol o gwmpas yr adran uchaf hon, gan gadw llygad am y coed sbesimen trawiadol megis y gochwydden arfor enfawr, a blannwyd gan y teulu Gilbertson. Mae’r rhan fwyaf o’r ystâd, sy’n dyddio’n ôl i’r 1870au, wedi’i dymchwel erbyn hyn ac wedi troi’n ôl yn goetir eilaidd, ond mae olion o ddiddordeb hanesyddol ar ôl ac mae yn yr arfaeth i osod paneli esboniadol a gwella mynediad i’r nodweddion hyn a fydd yn creu hyd yn oed mwy o ddiddordeb i’r coetir amrywiol hwn.

Gwylio Bywyd Gwyllt:
Yr amser gorau i weld planhigion blodeuol megis blodau’r gwynt, dail y beiblau a gwlydd melyn mair yw mis Mai. Yn y coed, gellir gweld heidiau o ditŵod gan gynnwys y titw penddu a’r titw cynffon-hir.

Llwybr Arfordir Cymru – Gweunydd Margam

Y rhan leiaf ei darganfod o lwybr yr arfordir yw’r rhan hon o Lwybr Arfordir Castell-nedd Port Talbot, gan ddilyn…

Llwybr Arfordir Cymru – Camlas Tennant

Ewch i’r gamlas yn Jersey Marine gan ddilyn cyfeirbyst Llwybr yr Arfordir i gyfeiriad gorllewinol tuag at Abertawe. Heblaw am…

Llwybr Hen Heol y Plwyf

Cwm Afan, Cwm Afan

Dilynwch y llwybr islaw mynedfa’r ganolfan ymwelwyr, trwy’r isffordd ac ar draws y llwybr beicio. Mae’r hen lwybr yn mynd…