Geo-lwybr Cwm Gwrelych
ANHAWSTER:
Hawdd
PELLTER:
2.4 km / 1.6 milltir
CANIATAU:
Awr
CYNEFIN:
Coetir/clogwyn
Taith gerdded hyfryd gyda golygfeydd hardd lle gallwch gerdded yn ôl mewn amser a darganfod treftadaeth ddiwydiannol gyfoethog a daeareg ryngwladol bwysig y safle unigryw hwn. Yn gorwedd ar ymyl maes glo de Cymru, mae’r cwm cudd hwn yn rhoi mynediad i greigiau sydd i’w gweld fel arfer yn ddwfn o dan gymoedd de Cymru’n unig. Gallwch ddarganfod gwythiennau glo, creigiau llawn haearn a ffosiliau rhyfeddol o blanhigion sy’n adrodd hanes amgylcheddau hynafol.
Dechreuwch ym mhentref Pont Walby a cherdded tua’r de, gan fynd o dan y draphont. Yna mae’n dilyn yr afon lan y cwm trwy geunant cul dan gysgod carreg fawr Farewell Rock. Mae’r llwybr yn crwydro oddi wrth yr afon ei hun i archwilio’r nodweddion daearegol trawiadol, gan eich arwain ar hyd cyfres o baneli dehongli i dynnu’ch sylw at fannau ychwanegol o ddiddordeb.
Gwylio Bywyd Gwyllt: Mae’r ardal yn gartref i gyfoeth o fywyd gwyllt megis madfallod, nadroedd defaid a chnocellau gwyrddion.
Rhodfa Argoed
Cwm Afan
Llwybr y Pulpud
Llwybr Rhyslyn
Cwm Afan