Llwybr Arfordir Cymru – Camlas Tennant

ANHAWSTER:

Hawdd

PELLTER:

4 km / 2.5 filltir

CANIATAU:

1 awr a 5 munud

CYNEFIN:

Glannau camlas/Coetir

Ewch i’r gamlas yn Jersey Marine gan ddilyn cyfeirbyst Llwybr yr Arfordir i gyfeiriad gorllewinol tuag at Abertawe. Heblaw am adran fer iawn o ddringo wrth y fynedfa, mae’r llwybr yn wastad ac yn hawdd mynd ato. Mae’r llwybr yn dilyn llwybr halio Camlas Tennant a oedd yn cysylltu Camlas Nedd ym masn Aberdulais ag afon Tawe yn Abertawe yn y gorffennol. Syniad George Tennant oedd y gamlas a ddefnyddid ar gyfer traffig masnachol tan ganol y 1930au. Ers hynny, mae’r dyfroedd wedi cael eu defnyddio o hyd i gyflenwi diwydiannau lleol ac mae’r gamlas yn gyswllt ddeniadol rhwng Jersey Marine ac Abertawe. Cynefin gwlyptir pwysig yw hwn sy’n gyswllt hydrolegol â Chors Crymlyn helaeth, safle o bwys rhyngwladol. Mae’r llwybr yn eich arwain ar hyd ffen a thrwy goetir, gan gynnig golygfeydd dymunol amrywiol ar y ffordd. Mae’r llwybr yn eich arwain hyd at y ffin ag Abertawe ac yn ôl, ond i’r rhai sydd am barhau i Abertawe, ewch ymlaen i ddilyn cyfeirbyst Llwybr yr Arfordir.
Gwylio Bywyd Gwyllt: Efallai byddwch yn ddigon ffodus i weld corryn rafft y ffen, rhywogaeth brin sydd wedi’i gwarchod yn genedlaethol ymhlith llystyfiant y glannau, tra bydd mursennod a gweision y neidr amrywiol, megis mursen las asur, yn amlwg uwchben y dŵr yn ystod misoedd yr haf.

Llwybr Arfordir Cymru – Mynydd Dinas

Mae’r gylchdaith hon yn cynnwys rhan o lwybr arfordir yr iseldir trwy Aberafan a Phort Talbot a llwybr arfordir yr…

Dolydd a Choedydd y Banwen

Cwm Dulais

NGan gychwyn o weithdy Dove, cymerwch eich amser i archwilio harddwch Dolydd a Choedydd y Banwen. Mae’r rhwydwaith o lwybrau…

Llwybr Trac Trotian

Dyffryn Aman Uchaf

Mae’r daith gerdded gylchol hon yn enghraifft wych o sut mae hen ardaloedd diwydiannol wedi cael eu dychwelyd i fyd…