Llwybr Esgair Gyfylchi
ANHAWSTER:
Egnïol
PELLTER:
10.4 km / 6.5 milltir
CANIATAU:
4 awr a 20 munud
CYNEFIN:
Coedwig/llwybr cerrig
Dilynwch ffyrdd coedwig a llwybrau cerrig i hen gapel y Bedyddwyr yng Ngyfylchi ac adfeilion Nant-y-bar, yr oedd ei defaid yn darparu llaeth ar gyfer y cwm cyfan ar un adeg. Mae’r llwybr yn eithaf serth mewn mannau felly argymhellir esgidiau cerdded a dillad dwrglos. Mae’r rhan fwyaf o’r daith gerdded yn mynd trwy goedwigoedd conwydd, felly byddwch yn wyliadwrus a chadwch lygad am adar sy’n arbenigo mewn bwydo ar gonwydd, megis gylfingroesion a philaod gwyrddion. Mewn llennyrch agored ac ar hyd rhodfeydd, gallech weld ieir bach yr haf megis y fantell paun.
Camlas Nedd Resolfen – Glyn-nedd
Bro Nedd
Llwybr gwastad dymunol iawn, yn addas i bawb. Dechrau yn y maes parcio ger y gylchfan ar yr A465 yn…
Llwybr Richard Burton
Cwm Afan
Mae’r daith gerdded hon yn cynnig cymysgedd diddorol o ddiwylliant, hanes a golygfeydd trawiadol. Dechreuwch ym maes parcio Rhyslyn ac…
Llwybr y Pulpud
Mae Parc Margam, sy’n cynnwys 800 erw, yn lleoliad perffaith i fynd am dro yng nghefn gwlad. Mae cyfeirbyst glas…