Llwybr Rhyslyn
ANHAWSTER:
Hawdd
PELLTER:
3.5 km / 2.2 filltir
CANIATAU:
1 awr a 20 munud
CYNEFIN:
Glan afon/coetir
Ac yntau’n wastad bron yr holl ffordd, mae’r llwybr hwn yn hawdd ac yn addas i deuluoedd, ond cadwch lygad am feicwyr wrth ddychwelyd ar ffordd y goedwig/y llwybr beicio. Gan ddechrau ym maes parcio Rhyslyn, disgynnwch i’r llwybr a’i ddilyn lan afon Afan. Mae’r llwybr yn agos at lan yr afon ac yn crwydro ar adegau i mewn i goetir cysgodol am hanner cyntaf y daith gerdded, gan gynnig digon o gyfleoedd i edmygu’r mannau harddwch heddychlon di-rif ar hyd ei gwrs. Ar ôl cyrraedd y bont gerddwyr bren, mae angen dringo ychydig cyn troi i’r chwith a mynd yn ôl i lawr i Ryslyn ar hyd llwybr hen reilffordd fwynau, gan fwynhau golygfeydd o’r afon a’r mynyddoedd ar bob ochr. Mae’r ffordd yn ôl yn cysylltu am ychydig â Llwybr Illtud Sant, llwybr pellter hir sy’n anrhydeddu’r Cymro o sant o ddiwedd y 5ed ganrif/ddechrau’r 6ed ganrif. Mae’r llwybr 103 km o hyd yn cysylltu Parc Gwledig Penbre yn Sir Gâr â Pharc Margam yng Nghastell-nedd Margam.
Gwylio Bywyd Gwyllt: Yn y coetiroedd cadwch lygad am adar megis pilaod gwyrdd a drywod eurben. Yn y mannau agored, cadwch lygad am ieir bach yr haf megis gwynion gwythïen werdd a gweirlöynnod y glaw.
Pontardawe – Ystalyfera
Cwm Tawe
Cylchdaith Sarn Helen
Bro Nedd, Bro Nedd
Rhodfa Argoed
Cwm Afan