Llwybr Trac Trotian
ANHAWSTER:
Hawdd
PELLTER:
2.85 km / 1.8 miles
CANIATAU:
1 hour
CYNEFIN:
Trefol/coetir
Mae’r daith gerdded gylchol hon yn enghraifft wych o sut mae hen ardaloedd diwydiannol wedi cael eu dychwelyd i fyd natur. Mae’r tirlun yn y fan hon wedi cael ei drawsnewid o ddu’r glo i wyrdd o fewn cenhedlaeth, a bellach mae bywyd gwyllt yn ffynnu mewn mannau lle bu glofeydd. Cychwynnwch o faes parcio Heol Llwyncelyn. Trowch i’r chwith i’r llwybr troed yn union heibio i’r afon sydd y tu ôl i chi, a dilynwch yr arwyddion cyfeirbwynt mewn cylch clocwedd. Ar y dde, mae’r Trac Trotian yn enghraifft wirioneddol o lwyddiant cymunedol, gan fod hen domen wastraff a wastatawyd wedi cael ei throi’n gylch rasio harnais o’r radd flaenaf. Trowch i’r dde a dilyn Heol Hir / Upper Colbren Road am ychydig dros 300m cyn anelu i’r dde eto a dilyn yr arwyddion cyfeirbwynt yn ôl i’r maes parcio.
Ar hyd y ffordd fe ewch heibio i amrywiaeth o gynefinoedd diddorol: coetir, tir llwyd a glaswelltir, i gyd yn cael eu rheoli’n ofalus i greu bioamrywiaeth cyfoethog.
Gwylio Bywyd Gwyllt: Bydd madfallod yn torheulo ar gerrig cynnes mewn ardaloedd tir llwyd, wrth i’r nico fforio yn hadau cribau’r pannwr a’r bengaled. Mae blodau fel clychau’r gog yn doreithiog ymhlith y coed yn y gwanwyn, ac yn ddiweddarach yn yr haf gallwch chi fwynhau cegaid o fefus gwyllt.
Llwybr Esgair Gyfylchi
Cwm Afan
Llwybr Afon a Rheilffordd
Cwm Afan
Ffen Pant-y-sais
Bro Nedd