Taith Gerdded Cilybebyll

ANHAWSTER:

Rhywfaint o Ymdrech

PELLTER:

2.5 km / 1.6 milltir

CANIATAU:

1 awr a 15 munud

CYNEFIN:

Coetir/dôl

Cylchdaith ddymunol iawn yw hon trwy goed a dolydd, gan fynd heibio i bentrefan cysglyd Cilybebyll gyda’i eglwys blwyf hynafol. Gan ddechrau yn Rhodfa Ashwood, trowch i lawr y lôn fach, gan ddilyn y cyfeirbyst ar y ffordd. Mae’r ffordd yn ymlwybro trwy goetir Coed Cwm Tawe, a fu unwaith yn rhan o Ystâd y Plas ac a oedd yn cael ei ddefnyddio fel ardal i hela helwriaeth. Mae’r coetir yn cynnwys digon o diddordeb gyda drifftiau glo niferus, enghreifftiau gwych o waliau cerrig sychion a nentydd deniadol. Wrth i chi adael y coetir, mae’r llwybr yn dringo lan tuag at Gilybebyll, gyda golygfeydd dros Gwm Tawe’n ymagor o’ch blaen. Mae’n werth ymweld ag Eglwys Sant Ioan yng Nghilybebyll sy’n dyddio’n ôl i’r 13eg ganrif. Mae’r tŵr yn Normanaidd, ond cafodd gweddill yr eglwys ei adfer ym 1869.

Gwylio Bywyd Gwyllt: Mae gwrychoedd, ymylon caeau a glaswelltir gwlyb yn cynnwys planhigion megis blodau taranau, briwlys y gwrych a blodau’r brain. Blodyn llefrith yw’r planhigyn bwyd ar gyfer larfa’r gwyn blaen oren a gellir gweld yr oedolion yn y gwanwyn cynnar. Cadwch lygad am adar y to yn y gwrychoedd.

Taith Gerdded Cilybebyll

Cwm Tawe

Cylchdaith ddymunol iawn yw hon trwy goed a dolydd, gan fynd heibio i bentrefan cysglyd Cilybebyll gyda’i eglwys blwyf hynafol.…

Dolydd a Choedydd y Banwen

Cwm Dulais

NGan gychwyn o weithdy Dove, cymerwch eich amser i archwilio harddwch Dolydd a Choedydd y Banwen. Mae’r rhwydwaith o lwybrau…

Llwybr Esgair Gyfylchi

Cwm Afan

Dilynwch ffyrdd coedwig a llwybrau cerrig i hen gapel y Bedyddwyr yng Ngyfylchi ac adfeilion Nant-y-bar, yr oedd ei defaid…