Y Gnoll i Gronfa Ddŵr y Tŷ Mwsogl

ANHAWSTER:

Rhywfaint o Ymdrech, Rhywfaint o Ymdrech

PELLTER:

2.8 km / 1.8 m

CANIATAU:

55 munud

CYNEFIN:

Coetir/pyllau, Woodland / Ponds

Mae’r daith hwn yn dechrau o’r ganolfan ymwelwyr ac yn dringo’n raddol hyd at Gronfa Ddŵr y Tŷ Mwsogl, o fewn ffiniau Parc Gwledig Ystâd y Gnoll. Mae gwaith torri coed diweddar wedi dadorchuddio golygfeydd hyfryd ar draws Cwm Nedd. Roedd y gronfa ddŵr, a adeiladwyd ddiwedd y 19eg ganrif, yn cyflenwi dŵr i dref Castell-nedd cyn cael ei rhyddhau gan nad oedd ei hangen bellach gan yr Awdurdod Dŵr ym 1982. Erbyn hyn mae’n gyrchfan deniadol cyn cerdded yn ôl i’r ganolfan ymwelwyr lle ceir gwybodaeth am yr ardal a chaffi .

Gwylio Bywyd Gwyllt: Gallwch weld deloriaid y cnau yn y coetir ffawydd. Mae ystlumod y dŵr yn clwydo yma ac yn bwydo’n aml gyda’r cyfnos dros y pyllau, sydd hefyd yn gartref i frogaod.

Llwybr Arfordir Cymru – Mynydd Dinas

Mae’r gylchdaith hon yn cynnwys rhan o lwybr arfordir yr iseldir trwy Aberafan a Phort Talbot a llwybr arfordir yr…

Dolydd a Choedydd y Banwen

Cwm Dulais

NGan gychwyn o weithdy Dove, cymerwch eich amser i archwilio harddwch Dolydd a Choedydd y Banwen. Mae’r rhwydwaith o lwybrau…

Llwybr Esgair Gyfylchi

Cwm Afan

Dilynwch ffyrdd coedwig a llwybrau cerrig i hen gapel y Bedyddwyr yng Ngyfylchi ac adfeilion Nant-y-bar, yr oedd ei defaid…