Mae pobl yn dweud mai’r ffordd orau o ddod i nabod rhywun yw cerdded milltir yn eu sgidiau. Mae hynny’r un mor wir am ddod i nabod Castell-nedd Port Talbot.
Felly parciwch y car, rhowch eich sgidiau cerdded ymlaen, a dewch yn gyfarwydd â’r lle a’r bobl (rydyn ni’n ddigon cyfeillgar).
Mae drama ac amrywiaeth ein rhanbarth bron yn ddigymar. Byd natur a gwaith dyn. Rhaeadrau a thonnau. Parciau gwledig a chamlesi. Llwybrau arfordirol ac yng nghefn gwlad. Nhw sy’n dylanwadu ar bopeth a wnawn a’n hunaniaeth, a gallwch ddod i’w nabod ar eich cyflymdra eich hun, trwy grwydro’n hamddenol ar lan yr afon neu heibio i fyny’r bryniau ac i lawr i’r cymoedd.
Doedd dim modd yn y byd i ni wasgu ein holl lwybrau cerdded ar un dudalen, felly rydyn ni wedi’u rhoi ar un map rhyngweithiol i chi. I gael manylion y llwybrau, gan gynnwys mapiau a chardiau, pwyntiwch a chliciwch ar y llwybr(au) unigol sydd o ddiddordeb i chi.

Llwybr gwastad dymunol iawn, yn addas i bawb. Dechrau yn y maes parcio ger y...
Darllen mwy
Dynodwyd Cwm Cryddan, sy'n goetir derw gan mwyaf, yn warchodfa natur leol yn 2008. Mae'r...
Darllen mwy
Mae modd cyrraedd y trysor cuddiedig hwn o gwm o'r Groes yng nghanol tref Pontardawe...
Darllen mwy
Gan ddilyn y B4242 am gyfnod byr, byddwch yn gweld arwydd amlwg y llwybr cyhoeddus...
Darllen mwy
NGan gychwyn o weithdy Dove, cymerwch eich amser i archwilio harddwch Dolydd a Choedydd y...
Darllen mwy
Gellir cael mynediad i'r llwybr hwn yn uniongyrchol o'r palmant ar hyd y brif ffordd....
Darllen mwy
Taith gerdded hyfryd gyda golygfeydd hardd lle gallwch gerdded yn ôl mewn amser a darganfod...
Darllen mwy
Dilynwch y llwybr islaw mynedfa'r ganolfan ymwelwyr, trwy'r isffordd ac ar draws y llwybr beicio....
Darllen mwyEwch i'r gamlas yn Jersey Marine gan ddilyn cyfeirbyst Llwybr yr Arfordir i gyfeiriad gorllewinol...
Darllen mwy