Glan Môr Aberafan

Port Talbot

Gyda’i dair milltir o dywod euraidd sy’n syrthio’n raddol i ddyfroedd Bae Abertawe, mae Traeth Aberafan yn berffaith ar gyfer dyddiau heulog yn chwarae gemau traeth, adeiladu cestyll tywod, nofio a mwynhau pysgod a sglodion.

Mae’r dref glan môr arobryn yn arbennig o boblogaidd gyda theuluoedd oherwydd ei glendid, y cyfleusterau gwych a’r dewis helaeth o fannau i fwyta gerllaw – o hoff lefydd fel Sand Rabbit, The Front, Cinnamon Kitchen, Francos, Remos a’r caffi traeth bythol boblogaidd, Memos. Mae’n ddiogel hefyd, gydag achubwyr bywyd ar batrôl yn ystod tymor y gwyliau.

Ac os byddwch chi’n rhedeg allan o bethau i’w gwneud ar y tywod, mae digon o bethau eraill i’w mwynhau. Wynebwch yr her yn Golff Antur Pirate Cove, ewch i oeri yn y parth Aqua Splash, neu gallwch dreulio amser yn y meysydd chwarae antur a’r rhai i blant bach. Os daw’r glaw, mae’r ganolfan hamdden a ffitrwydd a’r Reel Cinema chwe sgrîn gerllaw, gan roi digon o ddewis i deuluoedd a’r rhai sy’n hoffi ffilmiau gael mwynhau’r sgrîn fawr.

Mae’r traeth hefyd yn ffefryn ymhlith syrffwyr a syrffwyr barcud, ac mae Surf School Wales yn cynnig gwersi ac arweiniad yn yr ardal sydd wedi’i chlustnodi ar gyfer chwaraeon dŵr ar ochr ddwyreiniol y traeth.

Mae croeso i gŵn drwy gydol y flwyddyn ar draeth y doc, er bod cyfyngiadau’n weithredol ar y prif draeth yn ystod misoedd yr haf.