Afan A Blast
Cwm Afan
Mae Afan A Blast wedi’i leoli ar ben uchaf Parc Coedwig Afan, wedi’i amgylchynu gan rai o’r llwybrau beicio mynydd mwyaf cyffrous yng Nghymru. Mae’n lle cyfeillgar, hamddenol lle gall ymwelwyr logi beiciau, casglu offer, trefnu gwaith trwsio neu anelu’n syth am y llwybrau yr eiliad y byddan nhw’n cyrraedd. Mae caffi lan lofft am rywbeth cyflym i’w fwyta, cyfleusterau golchi beiciau ar gyfer dyddiau mwdlyd, a gallwch wersylla ar y safle gan ei wneud yn ganolfan gwych ar gyfer dod i adnabod y cwm.
Mae eu safle gwersylla yn swatio’n ddwfn o fewn Cwm Afan nesaf at Ganolfan Beicio Mynydd Glyncorrwg. Os ydych chi’n feiciwr mynydd, dyma’r lle perffaith i ddeffro gyda thoriad gwawr, bachu brecwast yng Nghaffi Cwtsh Corrwg a bod ar y llwybr cyntaf cyn i’r ddiwrnod ddechrau’n iawn. Os oes gwell gennych chi rywbeth ychydig mwy hamddenol, mae teimlad tawel ac ymlaciol yn y maes gwersylla ac mae’n eistedd o fewn rhwydwaith o lwybrau cerdded troellog, tawel.