Afan Adventure Dog

Afan Valley

O SUPio gyda chŵn i ‘Barkour’, mae Afan Adventure Dog yn croesawu ymwelwyr i brofi’r diwrnod cŵn eithaf.
Archebwch sesiynau gyda hyfforddwyr achrededig SportyPaws a mynd â’ch ci ar antur heb ei hail. Mae’r gweithgareddau sydd ar gael yn cynnwys Barkour, Canicross, Canitrek, Bike Joring, Mantrailing, Sgwteri a chroes-wlad. Dewiswch eich hoff weithgaredd i ganolbwyntio arno, neu dewiswch gymysgedd o weithgareddau drwy gydol y dydd. Mae diwrnod cŵn-rhyfeddol yn sicr i chi!