Gwirfoddolwyr Llwybr Afan
Cwm Afan
Mae Gwirfoddolwyr Llwybr Afan yn gymuned angerddol o feicwyr a phobl leol sy’n rhoi o’u hamser, eu hegni a’u harbenigedd i gadw llwybrau beicio mynydd Cwm Afan mewn cyflwr gwych. Mae eu gwaith yn mynd â nhw allan ar draws y goedwig, yn trwsio adrannau yn dilyn tywydd gwael, yn clirio tyfiant gormodol, yn gwella draeniad, yn codi arian am ddeunyddiau ac yn helpu i sicrhau bod yn llwybrau’n aros yn ddiogel, yn bleserus ac yn barod i unrhyw un sydd am feicio arnynt.
Maen nhw’n grŵp o bobl gyfeillgar, ymarferol sy’n gofalu’n fawr am y cwm a’i gofodau awyr agored. P’un a ydych chi’n feiciwr rheolaidd neu’n rhywun sy’n mwynhau gweld llwybrau Afan yn llwyddo, mae’r grŵp bob amser yn hapus i groesawu wynebau newydd i’w dyddiau tyllu a’u digwyddiadau cymunedol. Mae pob elfen o gefnogaeth yn helpu i amddiffyn y cyrchfan beicio o safon byd er mwyn i ymwelwyr y dyfodol allu mwynhau yr un teimlad o ryddid, llif a chysylltiad gyda’r tirwedd.