Mae Artwalk Port Talbot yn lwybr celf stryd hunan dywys sy’n arwain ymwelwyr drwy gasgliad cynyddol y dref o furluniau a gweithiau celf cyhoeddus. Mae’r llwybr yn amlygu darnau sydd wedi’u creu gan dalent lleol ac artistiaid adnabyddus, gan arddangos yr egni creadigol sydd wedi helpu i osod Port Talbot ar y map. Gall ymwelwyr ddilyn y llwybr gan ddefnyddio ap ArtWalk Port Talbot, sydd ar gael drwy’r platfform STQRY Guide am £2 ac sy’n darparu map rhyngweithiol ynghyd â ffotograffau, fideos a sylwebaeth sain i’ch helpu i fwynhau ar eich cyflymder eich hun.