Mae Bella Caio (sef ‘Hwyl Fawr i ti berson Hardd) yn fwyty sy’n cael ei redeg gan deulu gyda chyd-berchnogion Giovan, Tyrone a Domina.
Daw Domina o Palermo, Sisili ac mae Tyrone yn enedigol o Gymru; cyfarfu’r ddau mewn parti teuluol ac maen nhw wedi bod gyda’i gilydd bellach am 40 mlynedd ac wedi cael 3 o blant gyda’i gilydd.
Giovan yw’r mab hynaf ac ef fydd prif gogydd Bella Caio. Mae’n siarad Eidaleg, Saesneg a Sbaeneg yn rhugl ac mae’n methu aros i goginio seigiau blasus i chi i gyd eu mwynhau.