Booths by the Bridge
Dyma gaffi lleol teuluol sy’n frwd dros goffi arbenigol, bwyd o safon, a’r gymuned o’n cwmpas. Ar ôl adnewyddu’r eiddo yn ystod 2024, gwnaethom agor ein drysau ym mis Ionawr 2025 – ac rydym wedi bod yn falch o weini cynnyrch Cymreig ers hynny. Rydym yn dewis popeth rydym yn ei gynnig yn ofalus, o goffi Coaltown sy’n cael ei rostio ychydig filltiroedd i ffwrdd yn Rhydaman, i deisennau Baked by Jones ym Mhontardawe a llaeth ffres o fferm Daisy Bank yn Sir Drefaldwyn. Mae ein caffi’n lle ymlaciol a chroesawgar a chanddo ddigonedd o le mewnol a gardd werdd fawr yn y cefn sy’n cynnig golwg ar y draphont ddŵr ac afon Nedd. Rydym yn croesawu cŵn bob amser hefyd, felly dewch â’ch anifeiliaid anwes. P’un a ydych yn galw heibio am goffi a chrwst tawel, un o’n baguettes wedi’u llenwi’n hael, neu beint a thafell o pizza Naplaidd o Disco Dough, ein fan bwyd preswyl, dros y penwythnos, bydd rhywbeth at eich dant chi. Rydym ar agor o 9am tan 4pm ar ddydd Llun, dydd Iau a dydd Sul, ac o 9am tan 8pm ar ddydd Gwener a dydd Sadwrn.