Burger Boyz

Port Talbot

Mae gan Burger Boyz ddilyniant ffyddlon ym Mhort Talbot diolch i’r byrgyrs smash gwych â’u hymylon cras sy’n llawn blas a phersonoliaeth. Mae eu dull yn syml ond yn fythgofiadwy. Caiff cig eidion Cymreig ffres ei rolio â llaw bob dydd a’i goginio i greu’r crwst cyfoethog a’r tu mewn suddog sydd wedi gwneud eu byrgyrs yn rhywbeth y mae sôn mawr amdanynt.

Mae’r awyrgylch y tu mewn yn fywiog a chroesawgar gan ei wneud yn lle hawdd i alw i mewn p’un a ydych chi’n cwrdd â chyfeillion, yn dathlu rhywbeth neu dim ond yn yr hwyliau am rywbeth blasus ar ôl diwrnod mas. Ynghŷd â’r byrgyrs enwog fe gewch chi sglodion llwythog, adenydd, ysgytlaethau a’r holl bethau ychwanegol moethus sy’n gwneud i’r profiad deimlo fel gwledd go iawn.