Cadno Lounge

Castell-Nedd

Mae’r Cadno Lounge yng Nghastell-nedd yn hynod gartrefol ac yn cynnig bwydydd a diodydd blasus drwy gydol y dydd. Mae’r bwyty’n bodoli er mwyn dod â phobl at ei gilydd ac mae’r awyrgylch unigryw yn newid o awr i awr gyda phob ton newydd o gwsmeriaid.

Mae Cadno Lounge yn gweini amrywiaeth eang o fwydydd a diodydd – ac mae’n cynnwys bwydlen ddi-glwten a fegan. Mae gemau bwrdd ar gael i westeion bach a mawr, teganau i’r plantos, a hyd yn oed lluniaeth i’r cŵn sy’n dod ar ymweliad.