Pan agorodd Glofa Cefn Coed yn y 1920au, roedd mwy na 5,500 o ddynion yn gweithio yng nglofeydd Cwm Dulais. Fel yn achos llawer o byllau glo De Cymru, glo caled o ansawdd uchel oedd yno. Deuai’r glo gorau o’r Wythïen Fawr, ryw 2,500 tr o dan ddaear, ac felly hwn oedd y pwll glo caled dyfnaf yn y byd. Ond roedd cloddio am lo yn beryglus yn ei hanfod, a doedd Cefn Coed ddim yn eithriad. Digwyddai damweiniau yno mor aml nes iddi gael y llysenw annymunol ‘Y Lladd-dy’.
* Sylwch nad yw’r atyniad hwn ar agor i’r cyhoedd ar hyn o bryd, ymddiheuriadau am unrhyw anghyfleustra y mae hyn yn ei achosi*