Parc Gwledig Coetir Craig Gwladus

Castell-nedd

Wedi’i leoli ar fryn coediog sy’n cynnig golygfeydd ysblennydd o ran isaf Cwm Nedd, mae Parc Gwledig Coedwig Craig Gwladys yn rhywle y mae’n rhaid i’r rhai sy’n mwynhau cerdded a gwylio natur ymweld ag ef.

Mae’r parc yn cynnig dewis o lwybrau cerdded, yn cynnwys Llwybr y Gloddfa Ddrifft, sy’n dilyn hen dramffyrdd glofeydd Gelliau a Graig Cilfrew gan ymdroelli drwy amryw o nodweddion glofaol hanesyddol. Llwybr poblogaidd arall yw Llwybr y Teulu, taith gylch sy’n mynd heibio drysau’r tylwyth teg, sgydau a thwneli deiliog. Mae ardal bicnic hefyd i aros a mwynhau cinio yn yr awyr agored.

Mae’r parc yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau drwy gydol y flwyddyn, yn cynnwys gweithdai crefft treftadaeth a boreau coffi cymunedol.

Mae mynedfa Craig Gwladys ym Mhenscynor yng Nghilfrew, ger yr A465. Mae dewis o dri maes parcio ac mae parcio’n rhad ac am ddim.

Llun: Chris Lawrence