Mae Cresci’s Ice Cream and Café yn fusnes teuluol sydd wedi bod yn gwasanaethu’r gymuned ers ei sefydlu yn 1920. I frecwast gallwch fwynhau un o’r nifer o brydau sydd ar gael, o frecwast Cymreig llawn i omled cig moch neu selsig a rholyn wy. Mae eu bwydlen cinio canol dydd yn cynnwys llu o brydau clasurol fel pei a sglodion, gamwn, wy, pys a sglodion neu stecen syrlwyn 10 owns, yn ogystal â bwydlen prydau arbennig ar gyfer rhywbeth mwy moethus. I orffen eich archeb, mae’n anodd gwrthsefyll un o’u syndis hufen iâ cartref, neu ysgytlaeth blasus.