Mae Pysgota Plu Cymru’n cynnig arbenigedd ar gyfer pob math o bysgota afon o ddilyn brithyll gwyllt mewn nentydd bach ucheldir, i bysgota am sewin, brithyll a phenllwyd yn y prif afonydd. Mae pecynnau pysgota plu amrywiol ar gael o daith dywys hanner diwrnod i saffari wythnos gyfan ar draws Cymru. P’un a ydych chi’n ddechreuwr pur neu’n bysgotwr gêm profiadol, gall Pysgota Plu Cymru ddarparu popeth mae arnoch ei angen i fwynhau eich amser yn harddwch Cymru.