Abaty Margam ac Amgueddfa’r Cerrig

Port Talbot

Sefydlwyd Abaty Margam yn 1147, a hi yw’r unig fynachdy Sistersaidd yng Nghymru lle mae corff yr eglwys yn dal yn gyfan ac yn gweithredu fel eglwys y plwyf. Mae hefyd yng nghanol digonedd o greiriau sy’n atgof o’r gorffennol, yn fwyaf amlwg y tŷ siapter 12-ochr. Yr ochr arall i’r fynwent, mae gan Amgueddfa’r Cerrig gasgliad gwych o gerrig a chroesau cerfiedig, rhai yn dyddio o’r 6ed ganrif, ochr yn ochr â gargoyl hynod anfoesgar.

Mae Amgueddfa Cerrig Margam wedi’i lleoli mewn adeilad oedd yn un o ysgolion eglwys hynaf Cymru, ac mae yma gasgliad rhyfeddol o bron 30 o gerrig a chroesau wedi’u cerfio yn cynrychioli dros fil o flynyddoedd o hanes Cristnogaeth. Mae’r rhain yn cynnwys cerrig coffa Cristnogol cynnar o’r 6ed ganrif, croesau pen disg ac olwyn dro o’r 9fed a’r 10fed ganrif, cerfluniau o’r canol oesoedd, arysgrifau a delw marchog o’r bedwaredd ganrif ar ddeg.

Gwybodaeth allweddol i ymwelwyr: Mae’r amgueddfa ar agor rhwng 1 Ebrill a 30 Medi ar ddyddiau Mercher, Sadwrn, Sul ac ar Wyliau Banc, rhwng 10am a 3pm, gyda’r mynediad olaf hanner awr cyn yr amser cau. Mae ar gau rhwng 1 Hydref a 30 Mawrth ar wahân i ymweliadau wedi’u trefnu ymlaen llawn gan grwpiau o ddeg neu ragor. Mae mynediad yn rhad ac am ddim ac mae llefydd parcio ar gael yn agos at yr amgueddfa, er nad oes baeau penodedig ar gyfer yr anabl. Mae dau lawr i’r adeilad, ond nid yw’r llawr uchaf yn hygyrch i rai mewn cadeiriau olwyn.