Parc Gwledig Margam
Wedi’i osod o fewn 850 erw o gefn gwlad hardd, mae Parc Gwledig Margam yn fan lle mae hanes, natur ac antur yn dod ynghyd. Yng nghanol y parc mae Castell Margam yn sefyll, plasty Tuduraidd-Gothig o’r 19fed ganrif a fu unwaith yn gartref i’r teulu Talbot. Gall ymwelwyr fwynhau adfeilion atmosfferig Abaty Margam o’r 12fed ganrif ac edmygu’r Orendy o’r 18fed ganrif – yr orendy hiraf ym Mhrydain, yn 327 troedfedd.
Bydd teuluoedd yn canfod digon o bethau i’w mwynhau, o’r Pentref Tylwyth Teg gyda’i fythynnod bach a’i ardaloedd chwarae a gêm wyddbwyll enfawr, i’r Maes Chwarae Antur â’i gyfarpar gwych sydd wedi’i ddylunio ar gyfer plant hŷn. Mae Llwybr y Fferm yn cynnig cyfle i gwrdd ag anifeiliaid cyfeillgar yn cynnwys alpacas, geifr pigmi, merlod, cwningod, defaid pedigri ac asynnod gydag ŵyn bach a moch bach yn ymddangos yn ystod misoedd y gwanwyn a’r haf.
Mae’r parc hefyd yn adnabyddus am ei fywyd gwyllt. Mae tri rhywogaeth o geirw – Ewig Llwyd, Hyddod a Cheirw Père David – yn crwydro’n rhydd ar draws y tirwedd, gan gynnig cyfleoedd bythgofiadwy i’w gweld.
Mae croeso i gŵn yn y rhan fwyaf o ardaloedd y parc pan fyddant yng nghwmni perchnogion cyfrifol. Mae lle cyfleus i chi olchi eich cŵn ar gael os bydd eu pawennau neu eu cotiau’n fwdlyd, ac mae Parc Bark Play Margam yn cynnig lle diogel, wedi’i gau i mewn yn benodol i’r cŵn gael chwarae heb fod ar dennyn. Mae croeso i gŵn sy’n ymddwyn yn dda yn y caffi ar y safle hefyd, Pantri Charlotte, sydd hyd yn oed yn cynnig dewis o ddanteithion i gŵn.
I’r rhai sydd am brofi gwefr, mae Her Coedwig Go Ape! – yr unig un yng Nghymru – yn cynnig cyffro egni uchel, yn cynnwys Swing Tarzan sy’n disgyn yn rhydd am chwe metr a gwifren wib gyflym hyd at 180m. Mae dewis eang o weithgareddau awyr agored hefyd ar gael gan Margam Park Adventure sy’n cynnig canŵio, beicio mynydd, padlfyrddio a choedwriaeth.
Os mai rhywbeth mwy araf sy’n apelio, mae gerddi addurnol y parc, y llwybrau drwy’r coed, y llynnoedd tawel a Golygfan y Pulpud yn cynnig dihangfa berffaith – p’un a ydych chi’n ceisio myfyrdod tawel neu rhyw ennyd o dangnefedd.