Canolfan Celfyddydau Pontardawe
Pontardawe
Wedi’i leoli yng nghalon Cwm Tawe, mae Canolfan y Celfyddydau Pontardawe yn hwb diwylliannol bywiog sy’n cynnig rhaglen o gelfyddydau, adloniant a gweithgareddau cymunedol i’ch ysbrydoli.
Mae’r lleoliad yn cynnwys theatr gyda phob adnodd sy’n cynnal rhaglen amrywiol o gynyrchiadau proffesiynol a chymunedol, cerddoriaeth fyw, comedi, dawns a sioeau i’r teulu drwy gydol y flwyddyn.
Mae gan sinema le arbennig yng Nghanolfan y Celfyddydau Pontardawe, gyda’i phod sinema fodern, wedi’i hadeiladu i’r pwrpas, sy’n cynnig profiad sgrîn fawr o ansawdd gwych mewn lleoliad lleol, hamddenol. Gyda thaflunio laser o’r radd flaenaf, sain drochol a seddi cysurus, mae’n ffordd ddelfrydol i chi fwynhau’r ffilmiau poblogaidd diweddaraf yn ogystal â dangosiadau ffilm wedi’u curadu.
Mae’r bar caffi steilus ar agor i bawb, p’un a ydych chi’n ymweld yn ystod y dydd neu’n mynychu perfformiad byw neu’n dod i wylio ffilm. Gan gynnig awyrgylch hamddenol a chroesawgar, mae’n gweini detholiad o ddiodydd a byrbrydau gan ei wneud yn lle delfrydol i gwrdd â ffrindiau, i ymlacio neu i fwynhau luniaeth cyn ac ar ôl digwyddiadau.
Drwy gynnig rhaglen amrywiol a hygyrch o ddigwyddiadau byw, sinema a chyfleoedd i gymryd rhan, mae Canolfan y Celfyddydau Pontardawe yn parhau i herio, i ysbrydoli, i addysgu ac i roi adloniant i gynulleidfaoedd ar draws y gymuned.