NPT logo

Cwrs Golff Pontardawe

Cwm Tawe

O’i leoliad yn rhan uchaf Cwm Tawe uwchlaw tref fechan Pontardawe, mae’r cwrs golff hyfryd hwn sy’n cael pob gofal yn lleoliad unigryw ar gyfer chwarae golff. Gosodwyd y cwrs 600 troedfedd uwchlaw lefel y môr mewn parcdir rhannol. Mae’r cwrs par 70 sy’n ymestyn am fwy na 6100 o lathenni yn cynnig her ragorol i golffwyr o bob safon. Mae’r cyfleusterau’n cynnwys gwasanaethau ein rheolwr golff, siop golff, maes ymarfer, clwb, llogi trolïau a bygis.