Canolfan Treftadaeth ac Ymwelwyr Pontardawe

Cwm Tawe

Mae Canolfan Treftadaeth ac Ymwelwyr Pontardawe wedi’i leoli yn Yr Hen Stablau ar Stryd Herbert, Pontardawe. Mae’r Ganolfan yn hwb sy’n cael ei arwain gan wirfoddolwyr ac mae’n dathlu ac yn rhannu hanes cyfoethog diwylliannol a diwydiannol Cwm Tawe. Mae’n fan allweddol i gynnig gwybodaeth i ymwelwyr am yr ardal, gan gynnig arweiniad ar deithiau cerdded treftadaeth lleol, uchafbwyntiau twristiaeth ac amwynderau cyfagos. Y tu mewn, bydd ymwelwyr yn canfod derbynfa groesawgar gydag anrhegion wedi’u gwneud â llaw a llyfrau diddordeb lleol, ac mae mannau eistedd dan do a’r tu allan lle mae lluniaeth ar gael. Mae gan yr adeilad ystafell arddangos benodol hefyd sy’n cael ei defnyddio ar gyfer arddangosfeydd sy’n newid yn rheolaidd gan artistiaid, crefftwyr a grwpiau cymunedol lleol, sy’n helpu i rhoi sylw i greadigrwydd a threftadaeth Pontardawe. [cadw.gov.wales]

Mae ar agor i arddangosfeydd ac ymweliadau cyffredinol bob Dydd Iau, Gwener a Sadwrn rhwng 10am ac 1pm.