Am dros ddegawd mae Remo’s wedi bod yn croesawu cwsmeriaid i’w siop goffi, parlwr hufen iâ a bwyty hyfryd ar lan y môr sydd ar draeth hardd Aberafan.
Maen nhw wedi adeiladu enw da rhagorol yn seiliedig ar eu gwreiddiau Eidalaidd a’u hangerdd Cymreig am bob dim sy’n flasus.
Mae Remo’s yn gweini brecwast, prydau ysgafn, cinio canol dydd, cinio nos a chinio Dydd Sul. Heb anghofio eu hufen iâ cartref enwog, wrth gwrs, gyda dros 42 o flasau i ddewis o’u plith! Mae bwydlen ar gyfer y plant ar gael hefyd.