Ysgol Syrffio Cymru

Glan Môr Aberafan

Mae Surf School Wales yn ysgol syrffio sy’n cael ei redeg gan deulu ac wedi’i leoli ar Draeth Aberafan; mae’n cynnig lle cyfeillgar a chroesawgar i unrhyw un sydd eisiau cychwyn syrffio. Maen nhw’n cynnig amrywiaeth eang o opsiynau syrffio, gan ddechrau gyda sesiynau Dysgu Syrffio i rai 8 oed a hŷn, ynghyd â Surf Sisters, i fenywod yn unig, a gwersi i oedolion yn unig. Mae gwersi preifat un i un hefyd ar gael ar gyfer hyfforddiant mwy personol. Mae’r holl gyfarpar yn cael ei ddarparu ar gyfer pob gwers gan ei gwneud hi’n hawdd i ddechreuwyr gychwyn arni’n ddiogel.